|
|
Cylchlythyr Hapddalwyr EYST
|
|
Croeso i’n Cylchlythyr Hapddalwyr diweddaraf sy’n gasgliad misol rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y sector wirfoddol a chymunedol lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â chyfleoedd nawdd, hyfforddiant, swyddi, byrddau a datblygiad, yn ogystal â diweddariadau pwysig gan y Llywodraeth Gymreig. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnwys newyddion neu brosiectau pwysig o fewn y sector, felly anfonwch unrhywbeth yr hoffech chi ei rannu i Judy@eyst.org.uk
Gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau darllen a carem ni petae chi’n anfon eich adborth ynglyn â sut i wella. Diolch 😊
|
|
Os carech chi dderbyn y cylchlythyr hwn yn y Gymraeg, rhowch wybod i ni trwy anfon neges i’r ebost uchod ac fe wnawn ni eich hychwanegu chi at ein rhestr bostio.
|
|
|
|
Coronafeirws – Cymru gyfan ar lefel rhybudd 0
Diogelwch Cymru:
O Ebrill 18
- yn gyfreithiol mae dal disgwyl i chi wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal
O Mai 9
- os yw’r sefyllfa iechyd gyhoeddus yn parhau’n sefydlog, byddwn yn cael gwared ar unrhyw reoliadau sy’n weddill
Gwybodaeth wedi’i dynnu oddi yma: https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0
|
|
Cronfa Cymuned Leol Co-op
|
|
|
Mae’r broses gais ar gyfer Cronfa Cymuned Leol Co-op bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Maent yn cefnogi prosiectau sy’n gwneud cymunedau’n decach i bawb.
Petae chi’n llwyddiannus, byddech chi’n partneru â Co-op am 12 mis ble y bydd aelodau’r Co-op yn cael eu hannog i gefnogi’r brosiect.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn grŵp nid er elw a’n darparu prosiect sy’n buddio eich cymuned leol.
Gallwch wneud cais os yw’ch prosiect yn:
- dod â phobl at ei gilydd i gael mynediad i fwyd
- helpu i wella lles meddwl pobl
- creu cyfleoedd i bobl ifanc fedru cael eu clywed ac i wneud gwahaniaeth
- helpu pobl i warchod bioamrywiaeth lleol neu i daclo newid hinsawdd trwy ostwng allyriadau carbon
Mae’n rhaid i’ch prosiect chi hefyd:
- gymryd lle yn y DU neu Ynys Manaw
- beidio meddu ar fwriadau crefyddol neu wleidyddol (ond fe allwch dal wneud cais os yr ydych chi’n gorff crefyddol)
- gymryd lle neu barhau i gael ei gynnal wedi Tachwedd 2023
Er mwyn gwneud cais am nawdd, anfonwch eich cais atom erbyn ganol nos ar 29 Mai 2022.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://causes.coop.co.uk/
|
|
Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru
|
|
|
Mae WCVA yn falch o allu lansio cylchred nawdd 2022/23 ar gyfer Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru. Wedi’r weinyddiaeth o gynllun peilot llwyddiannus, mae Comic Relief wedi cadarnhau cylchred newydd o nawdd i noddi gweithrediad wedi’i arwain gan y gymuned sy’n esgor ar newid cymdeithasol gadarnhaol, parhaol trwy Gymru gyfan.
Mae Comic Relief a phartneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn cydnabod y gwaith helaeth mae cyrff wedi’u harwain gan y gymuned yn ei wneud ar draws Cymru ac mae nhw eisiau helpu cyrff i ddatblygu eu cynhwysedd eu hunain mewn modd cynaliadwy ac effeithiol.
Mae gan Gronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru ddau lefel nawdd:
- Grantiau Twf Trefniadol - £30,000 - £50,000
- Grantiau Bach - £1,000 - £10,000
Bydd yr holl geisiadau llwyddiannus yn arddangos cyfraniad tuag at un o bedwar o Themâu Strategol Comic Relief:
- Plant yn goroesi ac yn ffynnu
- Cyfiawnder rhywedd
- Lle diogel i fod
- Materion iechyd meddwl
Mae cyrff gyda phwrpas sydd yn canolbwyntio ar eu cymdeithas a gydag incwm o llai nai £250,000 yn gymwys i wneud cais. Mae cyfanswm o £900,000 mewn grantiau ar gael.
Ceisiadau’n cau 27 Mehefin 2022.
Gall y digwyddiad cynharaf ddechrau ar 22 Awst 2022 a gorffen dim hwyrach na 30 Awst 2023.
Ar gyfer grantiau mawr - twf trefniadol cysylltwch â thîm grantiau WCVA trwy comicreliefgrants@wcva.cymru. Ar gyfer grantiau bach cysylltwch â’ch Arweinydd TSSW Rhanbarthol fel y’i rhestrir yma, ble y gallwch hefyd gael mynediad i wybodaeth bellach.
|
|
YMGYNGHORIADAU A CHYFLEOEDD YMRWYMO
|
|
|
Ymrwymwch ag Ymchwil gyda Show Racism the Red Card!
|
|
|
Mae Show Racism the Red Card yn cwblhau gwaith ymchwil i fewn i Hiliaeth o fewn pêl droed llawr gwlad yng Nghymru. Maent yn dymuno clywed gan y rheiny o fewn y gymuned sydd wedi cael profiad o bêl droed yng Nghymru.
Gallwch gefnogi’r gwaith ymchwil trwy gwblhau’r arolwg yma.
|
|
Seminar Rhithiol ar y gweill ynglyn â Deallusrwydd Artiffisial
|
|
|
Mae Cymdeithas Cyrhaeddiad Menywod Lleiafrif Ethnig Cymreig (EMWWAA) yn cynnal seminar iechyd gyhoeddus y mis hwn. Bydd y Cardiolegydd Ymgynghorol o Ysbyty Prifysgol Cymru, Yr Athro Alan Fraser yn ymuno â’r digwyddiad.
Gweler y manylion ymuno islaw:
Deallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd: Buddion a Phryderon
Mai 18fed, 7yh
Dolen Zoom yma
ID Cyfarfod: 899 3052 7480
Cyfrinair: 210363
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â upadhyaya@cardiff.ac.uk neu hameedA2@cardiff.ac.uk.
|
|
Time to Change Cymru - Hyfforddiant Pencampwyr bellach ar agor!
|
|
|
Mae cyfle arall ar y gweill i unigolion ac aelodau o’r gymuned i hyfforddi fel Pencampwr ar gyfer Time to Change Cymru ar Ddydd Iau 23ain Mehefin, 9:30 - 3yh.
Daeth Rahila - un o aelodau staff hir-dymor EYST yn Bencampwr yn ystod ein cylchred recriwtio ddiwethaf.
Gallwch ddarllen ei stori yma
Mae Pencampwyr Time to Change Cymru yn wirfoddolwyr dros 18 oed gyda phrofiad bywyd o iechyd meddwl gwael - boed yn brofiad hanesyddol neu bresenol ac mae nhw wrth wraidd ein Hymgyrch Time to Change, yn herio’r stigma o fewn eu cymunedau eu hunain, ar-lein ac yn y cyfryngau a’n rhannu eu stori gyda phobl eraill.
Caiff hyfforddiant a chefnogaeth eu darparu i’n holl Bencampwyr er mwyn iddyn nhw fedru rhannu eu profiadau boed trwy sgyrsiau gwrth-stigma yn y gweithle neu trwy ysgrifennu blogiau. Rydyn ni wedi gweld fod y cyfle yma wedi helpu i ddatblygu hyder a sgiliau sydd wedi cefnogi’r Pencampwyr trwy gydol eu gwelliant a’u gyrfaoedd.
Er mwyn cadarnhau eich lle ar y cwrs hyfforddi, ebostiwch info@timetochangewales.org.uk.
Pe bae chi’n dymuno dysgu rhagor am ymgyrch TtCW, gallwch ymweld â’r wefan http://www.timetochangewales.org.uk/en/
|
|
Ymunwch â’r Academi Arweinyddiaeth Cymunedol
|
|
|
Mae cyfle hyfforddiant am ddim nawr ar gael trwy Academi Arweinyddiaeth Cymunedol Blueprint for All gyda llinell amser o Mai 2022 - Tachwedd 2022.
Mae’r rhaglen yn bwriadu mynd i’r afael â’r diffyg hyfforddiant arweinyddiaeth wedi’i deilwra ar gyfer anghenion elusennau bach a meicro. Bydd gan cyfungyrff partnerol ddealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n wynebu grwpiau cymunedol ac fe fyddant yn cynllunio ac yn hwyluso sesiynau sy’n diwallu anghenion arweiynddol penodol yr Arweinwyr.
Caiff arweinwyr cymunedol cyfungyrff rheng flaen wedi’u seilio o fewn cymunedau ar draws y DU eu hannog i wneud cais. Mae Arweinwyr yn meddu ar ystod eang o swyddi o Gyfarwyddwr a Chadeirydd i Arweinydd Nawdd a Swyddog Prosiect. Bydd arweinwyr cymunedol yn hannu o gyfungyrff o feysydd megis ieuenctid, cydlyniad cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol, ymrwymiad celfyddydol ayyb.
Bydd y rhaglen yn gyfan gwbl ar-lein a bydd disgwyl i arweinwyr Cymunedol fynychu lleiafswm o 6 gweithdy o bell a mynychu sesiynau dadansoddi 1:1 rheolaidd gyda thîm Blueprint for All.
Arwyddwch i fyny ar gyfer yr Academi Arweiynddiaeth Cymunedol trwy’r wefan - Academi Arweinyddiaeth Cymunedol | Blueprint for all
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach, ebostiwch programmes@blueprintforall.org
|
|
Gweithgareddau Ymrwymiad yn Abertawe wedi’u darparu gan The CAE
|
|
|
Mae The CAE yn cynnig teithiau beic wythnosol ar y funud ar gyfer y rheiny sydd wedi’u seilio yn Abertawe, gyda ffocws benodol ar fenywod yn cymryd rhan. Noder mai hyfforddwraig benywaidd fydd yn arwain. Cysylltwch â daisy@caentr.org er mwyn arwyddo i fyny.
|
|
The CAE are holding a Police Career Workshop Thursday 16 June at the National Waterfront Museum in Swansea. This event is targeted at individuals from ethnically diverse communities for recruitment purposes and it is a chance for them to hear about the opportunities available in the SWP. Individuals can sign up via Eventbrite or by emailing sam@caentr.org
Sign up closes at the end of this month!
|
|
Cefnogaeth Galaru Cruse yn recriwtio ar gyfer Cefnogaeth Gwaith Allanol
|
|
|
Mae Cefnogaeth Galaru Cruse yn chwilio am Gydlynydd Gwasanaeth & Swyddog Gwaith Allanol Cymunedol rhan-amser. Maent yn benodol yn chwilio am geisiadau gan unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Gweler rhagor isod:
Teitl Swydd: Cydlynydd Gwasanaeth a Swyddog Gwaith Allanol Cymunedol Cymru
Lleoliad Gweithio o gartref gyda disgwyliad i deithio ar draws Cymru
Yn Atebol i Y Swyddog Ymateb Galaru Arbenigol
Oriau 21 awr/wythnos
Cytundeb 2 flynedd sefydlog 2022-2024 gyda’r posibiliad o estyniad
Tâl £26,780, pro rata am 21 awr £16,068
|
|
Diverse Cymru yn chwilio am rywun i gefnogi eu Prosiect Partneriaeth!
|
|
|
Mae Diverse Cymru yn recriwtio ar gyfer Swyddog Datblygiad Cymunedol ar y funud i fod yn rhan o’r weinyddiaeth ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Galaru Cymreig (BISS) newydd sbon y mae Diverse Cymru yn ei weithredu mewn partneriaeth â Marie Curie.
Tâl: £21,000 y flwyddyn
Flexitime yn weithredol, 28 diwrnod* o wyliau blynyddol yn ogystal â gŵyliau banc (*pro rata)
Math o Gytundeb: Llawn Amser, Cytundeb Tymor Sefydlog hyd at 31ain Mawrth 2024
Lleoliad: Opsiwn o weithio o bell, Mewn Swyddfa (Caerdydd) neu’n Hybrid
Maent yn chwilio am rywun gyda sgiliau rhyngbersonol gwych a thystiolaeth o weinyddu arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn am y byddwch yn teilwra adnoddau a gwasanaethau at anghenion unigolion.
Y dyddiad cau i wneud cais yw 22 Mai 2022.
I ganfod mwy ewch i https://diversecymru.org.uk/vacancies/, ble y gallwch hefyd ddod o hyd i’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal.
|
|
Ymarferwyr Adferiad Iechyd Meddwl eu hangen yn Diverse Cymru
|
|
|
Mae Diverse Cymru hefyd yn bwriadu recriwtio Ymarferwyr Adferiad Iechyd Meddwl ar gyfer eu prosiect newydd sbon wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol, er mwyn darparu cefnogaeth uniongyrchol i unigolion DALlE a’u helpu i wneud y trosiad o ofal eilradd a chynnal bywyd annibynol o fewn y gymuned.
Tâl: £20,500 llawn amser, £11,635 rhan amser.
Flexitime yn weithredol, 28 diwrnod* o wyliau blynyddol yn ogystal â gŵyliau banc (*pro rata)
Math o Gytundeb: Cytundeb hyd at 2026, safleoedd Llawn Amser a Rhan Amser ar gael (37 neu 21 awr yr wythnos)
Lleoliad: Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru (Gweithio o gartref, lleoliad yn hyblyg)
Wedi’ch seilio unai yng Ngogledd neu Gorllewin Cymru, byddwch yn darparu cefnogaeth i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl, yn enwedig y rheiny sy’n cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan eu galluogi i gynnal bywyd annibynol o fewn y gymuned.
I ganfod mwy, ewch i https://diversecymru.org.uk/vacancies/, ble y gallwch hefyd ddod o hyd i’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal.
|
|
ADNODDAU AR GYFER Y SECTOR
|
|
|
TAFLU GOLEUNI AR Y SECTOR
|
|
|
Mae ein ffocws y mis hwn ar Women Connect First!
|
|
Y mis hon, rydyn ni’n bwrw goleuni ar neb llai na Women Connect First. Wrth iddyn nhw ddathlu 20 mlynedd fel cyfungorff, roedden ni eisiau cymryd yr amser i gydnabod eu cyflawniadau a’u hymrwymiad parhaus i’r gymuned wrth herio problemau rhywedd, cymdeithasol a hiliol. Gyda sawl prosiect yn digwydd ochr yn ochr â’i gilydd, maent yn helpu menywod o gymunedau amrywiaethol i ddatblygu eu sgiliau gyda hyder yn ogystal ag integreiddio yn gyfforddus i fewn i’r gymdeithas, gan eu galluogi i ddysgu ac i ffynnu.
Mae’r prosiectau hyn yn gwasanaethu aelodau o’r gymuned o fewn ystodau oedran amrywiol gyda chanlyniadau positif. Er enghraifft, maent yn cynnal dau Glwb Ar Ôl Ysgol ar gyfer pobl ifanc, yn cynnig dosbarthiadau ESOL, yn rhedeg Caffi Byd a’n ymrwymo â’r henoed a phobl bregus. Er mwyn dal i fyny â’r diweddaraf, dilynwch nhw ar Twitter. 😊
|
|
|
|
|
|
|