|
|
Cylchlythyr Hapddalwyr EYST
|
|
Croeso i’n Cylchlythyr Hapddalwyr diweddaraf sy’n gasgliad misol rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y sector wirfoddol a chymunedol lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, a’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â chyfleoedd nawdd, hyfforddiant, swyddi, byrddau a datblygiad, yn ogystal â diweddariadau pwysig gan y Llywodraeth Gymreig. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnwys newyddion neu brosiectau pwysig o fewn y sector, felly anfonwch unrhywbeth yr hoffech chi ei rannu i Judy@eyst.org.uk
Gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau darllen a carem ni petae chi’n anfon eich adborth ynglyn â sut i wella. Diolch 😊
|
|
Os carech chi dderbyn y cylchlythyr hwn yn y Gymraeg, rhowch wybod i ni trwy anfon neges i’r ebost uchod ac fe wnawn ni eich hychwanegu chi at ein rhestr bostio.
|
|
|
|
Coronafeirws – Cymru gyfan ar lefel rhybudd 0
Cadwch Cymru’n ddiogel:
O Chwefror 28ain:
- yn gyfreithiol bydd ond angen gorchudd wyneb o fewn amgylcheddau manwerthu, trafnidiaeth gyhoeddus a iechyd a gofal
- bydd dal disgwyl i chi hunan-ynysu pe bae symptomau gennych chi neu pe bae chi’n profi’n bositif
- bydd disgwyl i leoliadau rheoledig barhau i wneud asesiadau risg coronafeirws
O Fawrth 28ain:
- os yw’r sefyllfa iechyd gyhoeddus yn parhau’n sefydlog, byddwn yn cael gwared o’r holl reoliadau sy’n weddill
Gwybodaeth wedi’i dynnu oddi yma: https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0
|
|
The Big Give yn lansio Cronfa Gyfatebol Anchor
|
|
|
Mae The Big Give yn hynod o gyffrous i fedru cyhoeddi lansiad eu Cronfa Gyfatebol Anchor er mwyn helpu elusennau i lansio eu hymgyrchoedd arian cyfatebol eu hunain, a dyma’r tro cyntaf y bydd The Big Give yn darparu nawdd i elusennau o’n coffrau ein hunain.
Bydd The Big Give yn cynnig cyfraniad o £1k o arian cyfatebol (hyd at uchafswm o £10k yr elusen) i ymgyrchoedd elusennol am bob £4k y byddant yn ei godi gan wystlon.
Er enghraifft:
Os yw elusen yn codi £8k gan wystlon ar gyfer eu pot arian cyfatebol, bydd The Big Give yn llenwi’r pot arian cyfatebol gyda £2k yn ychwanegol.
I fod yn gymwys:
- Amseru: Bydd angen i elusennau anfon eu ffurflen mynegiad o ddiddordeb erbyn 18fed Mawrth 2022. Bydd angen i elusennau lansio eu hymgyrchoedd arian cyfatebol rhwng 2il Mai 2022 a 30ain Mehefin 2022. Bydd angen i unrhyw ymgyrchoedd ddod i ben erbyn 31ain Awst 2022.
- Detholiad: Bydd ceisiadau’n cael eu dethol ar gyfer y rhestr fer gan The Big Give. Byddwn yn cysylltu ag elusennau erbyn 1af Ebrill 2022 os y cânt eu dewis i dderbyn nawdd Gyfatebol Anchor.
- Bydd The Big Give yn cynnig gwerth £1,000 o arian cyfatebol ar gyfer pob £4,000 llawn o wystlon wedi’u diogelu gan yr elusen. Yr uchafswm o arian cyfatebol a gaiff ei wobrwyo i elusen yw £10,000.
Cysylltwch â The Big Give ar hello@thebiggive.org.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau neu pe bae chi’n dymuno trafod eich cynlluniau ymgyrchu.
|
|
Gwirfoddoli Cymru y CGGC yn ei ôl!
|
|
|
Mae CGGC newydd ail-lansio eu cynllun nawdd Gwirfoddoli Cymru, yn canolbwyntio ar brosiectau fydd yn cefnogi profiad gwirfoddoli gadarnhaol, yn herio rhwystrau i wirfoddoli ac yn cael dylanwad hir-dymor ar y gymuned.
Mae prif gynllun nawdd Gwirfoddoli Cymru 2022-25 bellach yn agored i geisiadau gan ddefnyddio Porth Gais Amlbwrpas (MAP) y CGGC.
Bydd nawdd o hyd at £25,000 y flwyddyn ar gael, dros uchafswm o ddwy flynedd.
Bwriad y cynllun wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw i gynyddu ymrwymiad gwirfoddolwyr a chynnig cyfleoedd sydd o safon uchel ac yn gadarnhaol ill dau. Mae prosiectau’r gorffennol wedi gwireddu canlyniadau sylweddol, nid yn unig trwy fuddio’r gymuned yn ystod y pandemig ond hefyd hybu lles y gwirfoddolwyr.
Os oes gan eich corff ddiddordeb mewn cael mynediad i brif gynllun nawdd Gwirfoddoli Cymru ewch i dudalen nawdd Gwirfoddoli Cymru am ragor o fanylion neu cysylltwch â volwalesgrants@wcva.cymru.
|
|
Cronfa UK Youth: Thriving Minds
|
|
|
Mae Cronfa UK Youth wedi lansio Thriving Minds fel ymateb uniongyrchol i’r creisis iechyd meddwl gynyddol ymhlith pobl ifanc.
Gall cyrff ieuenctid yn y DU gyda throsiant o hyd at £500,000 wneud cais. Bwriad y gronfa yw i sicrhau bod gan gyrff ieuenctid yr adnoddau angenrheidiol er mwyn gwella darpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid. Nid oes cyfyngiad ar werth na thermau’r nawdd ac maent yn amrywio o £15,000-£50,000 y flwyddyn am hyd at 3 mlynedd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul 20fed Mawrth am Hanner Nos.
Byddwn yn ymateb i ymgeiswyr ym Mai 2022.
Am ragor o wybodaeth ewch yma
|
|
Gorymdaith yn Erbyn Hiliaeth: 20 Mawrth
|
|
|
Bydd TUC Cymru yn ymuno â Stand Up To Racism Wales i nodi diwrnod Gwrth-Hiliaeth y CU yn rhan o brotestiadau cenedlaethol ar draws y DU.
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull ger Neuadd Dinas Caerdydd am hanner dydd ar Ddydd Sul 20fed Mawrth ac yn ymlwybro tuag at risiau’r Senedd ble y cawn glywed gan Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ac eraill.
Ymunwch â’r orymdaith a byddwch yn rhan o’r ymwthiad yn erbyn yr amgylchedd gynyddol wrthwynebus tuag at ffoaduriaid, mudwyr, a grwpiau lleiafrifol.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i dudalen digwyddiad Stand Up To Racism Wales: https://www.facebook.com/events/890206241686230?ref=newsfeed
|
|
YMGYNGHORIADAU A CHYFLEOEDD YMRWYMO
|
|
|
FA Cymru: gweithdy Pêl Droed yn Croesawu Ffoaduriaid
|
|
|
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei weinyddu gan Amnesty International UK, yn rhan o raglen Pêl Droed yn Croesawu Ffoaduriaid FA Cymru.
Bydd yn darparu cyfle i ymrwymwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o pwy yw ffoaduriaid a cheiswyr lloches a sut y gall Clybiau pêl droed weithio gyda’r gymuned hon a dod yn “Glybiau sy’n croesawu Ffoaduriaid”.
Bydd y gweithdy yn darparu sgiliau ymarferol i fedru gweithio gyda a chynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eich Clwb tra’n creu gwagle agored ar gyfer trafodaeth gonest a myfyrdod.
Bydd y gweithdy’n rhyngweithiol ac yn ddengar a bydd yn wagle diogel ar gyfer dysgu a rhannu syniadau a straeon o brofiadau da ac arfer gorau.
Arwyddwch i fyny ar Eventbrite
*NODER fod y gweithdy hwn ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli o fewn pêl droed yng Nghymru ac mae wedi’i dargedu at unigolion sy’n cynrychioli eu Clwb gyda’r bwriad o’r Clwb yn dod yn “Glwb Sy’n Croesawu Ffoaduriaid” ardystedig.
|
|
FA Cymru: Gweithdy Dywedwch Na i Hiliaeth
|
|
|
Mewn partneriaeth â Show Racism the Red Card, bydd FA Cymru yn darparu cyflwyniad i wrth-hiliaeth ar gyfer Clybiau ac aelodau o’r teulu pêl droed. Mae’n weithdy amserol wedi’i drefnu i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Diddymu Anffafriaeth Hiliol.
Mae’r gweithdy’n rhyngweithiol ac yn ddengar ac yn darparu gwagle diogel i drafod a dysgu rhagor am y pwnc o hiliaeth.
Arwyddwch i fyny ar Eventbrite
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau ynglyn â’r gweithdy cysylltwch â PAWB@faw.co.uk
**NODER fod y gweithdy hwn ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli o fewn pêl droed yng Nghyrmu.
|
|
Comisiynau Awduron gyda Llenyddiaeth Cymru
|
|
|
Mewn partneriaeth ag Adnoddau Naturiol Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan awduron a hwyluswyr creadigol i ddyfeisio a gweinyddu prosiect ysgrifennu creadigol sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles.
Bydd yn rhaid i bob prosiect ymrwymo â 10 cyfranogwr a gweinyddu o leiaf 8 sesiwn ar gyfer y grwp targed a chyflwyno cynnyrch gorffenedig e.e. llyfr, perfformiad, ffilm.
Mae 3 comisiwn ar gael i gyd - gwerth £4000 yr un.
Y dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb yw Dydd Llun 21ain Mawrth 2022 am 12:00 y prynhawn.
Mae unrhyw awduron llawrydd wedi’u seilio yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cyfle hwn, ond bydd awduron sydd heb dderbyn comisiynau neu waith cyflogedig gan Llenyddiaeth Cymru dros y 12 mis diwethaf yn derbyn blaenoriaeth.
Am ragor o wybodaeth, ewch yma.
|
|
Recriwtio aelodau ar gyfer Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Y Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol
|
|
|
ALLWCH CHI HELPU'R SYSTEM CYFIAWNDER TROSEDDOL YNG NGHYMRU I LEIHAU GWAHANIAETHAU AR SAIL HIL?
Allwch chi fynd ati mewn modd adeiladol i gefnogi a herio'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru i gyflawni ei haddewidion Gwrth-hiliaeth?
Hoffai Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru recriwtio 12 o aelodau i'r Panel, gan gynnwys Cadeirydd annibynnol, mewn rolau â thâl i oruchwylio ei waith ar wrth-hiliaeth, craffu arno'n allanol, a sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud.
Dylid pwysleisio bod y rolau hyn yn agored i'r rhai sydd â'u bryd ar gyflawni newid, lle maent wedi cael profiad o'r system eu hunain.
Bydd angen i ddarpar ymgeiswyr feddu ar y canlynol:
- Diddordeb brwd mewn cydraddoldeb hiliol
- Dealltwriaeth o'r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, gan gynnwys, er enghraifft, fel cyn-weithiwr proffesiynol yn y system, drwy brofiad go iawn fel dioddefwr, troseddwr neu ddiffynnydd, neu fel aelod o deulu un o'r rhain.
- Y gallu i gwestiynu a herio, a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth
Hoffai Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn arbennig benodi pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, gan gynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Bydd aelodau'r Panel yn cael eu talu fesul awr am fynychu cyfarfodydd a bydd y Cadeirydd yn cael cyfradd ychydig yn uwch i adlewyrchu dyletswyddau ychwanegol.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw hanner dydd ddydd Mawrth 19 Ebrill. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Judy@eyst.org.uk, neu ewch yma i ganfod mwy.
|
|
Swydd wag Eiriolwr Cymunedol gydag ASC
|
|
|
Mae Advocacy Support Cymru yn chwilio am Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol (EIMC) i sicrhau fod eu cleiantiaid yn cael eu clywed a’u hystyried gan bobl broffesiynol sydd ynghlwm â’u gofal a’u triniaeth.
Eiriolwr Cymunedol
£20,931 i £23,043
Bwriad EIMC yw i alluogi eu cleiantiaid, gan eu hysbysu o’u hawliau cyfreithiol a’u cefnogi i eirioli drostynt hwy eu hunain pan yn bosibl. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio gydag oedolion a/neu blant bregus, unai o fewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol, neu’n anuniongyrchol, er enghraifft fel gofalwr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18fed Mawrth 2022 am 5yh.
Am ragor o wybodaeth ewch yma.
|
|
Cyngor C-NPT yn chwilio am Swyddog Cydlyniad Cymunedol
|
|
|
Mae Cyngor Castell-Nedd a Phort Talbot yn chwilio am Swyddog Cydlyniad Cymunedol i gefnogi rhanbarth o 3 Awdurdod Lleol (Abertawe, Castell-Nedd a Phort Talbot a Phenybont), gan ddarparu cefnogaeth i ymrwymo holl aelodau’r cyhoedd ond yn bennaf cymunedau sy’n anoddach i’w cyrraedd.
Swyddog Cydlyniad Cymunedol
Gradd 5 £21,322 i £24,491 y flwyddyn
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i gynorthwyo wrth adnabod a lleddfu tensiynau cymunedol (troseddau casineb, eithafiaeth, gweithredaeth). Yn rhan o’r gwaith mae ffocws gynyddol ar fesur argraff y weithgaredd yn hytrach na’r cynnyrch.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18fed Mawrth 2022.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Elinor Wellington ar e.wellington@npt.gov.uk. Am ragor o wybodaeth, ewch yma.
|
|
Swydd Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus yn Colegau Cymru
|
|
|
Mae Colegau Cymru yn chwilio am rhywun i helpu hyrwyddo buddion addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Byddant yn cynrychioli colegau addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol, gan weithio’n agos ag ASau yn y Senedd a gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod gyda a briffio llefarwyr pleidiau gwleidyddol priodol ac aelodau Pwyllgorau Senedd allweddol, yn ogystal ag ymgymryd â gwaith ymchwil, dadansoddi (ansoddol a mesurol), ac i helpu i ddatblygu awgrymiadau polisi gyhoeddus.
Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus
£19,808 - £21,524
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun 28 Mawrth 2022 12.00yp.
Ar hyn o bryd mae hwn yn gyfle gweithio-oddi-cartref yn bennaf gyda’r disgwyliad y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn teithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd, ac â pharodrwydd i deithio ar draws Cymru, o fewn y DU ac weithau’n rhyngwladol.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r swydd gan gynnwys sut i ymgeisio, ewch yma
|
|
Swydd dan Hyfforddiant gyda rad Cymru Wales
|
|
|
Mae rad Cymru Wales yn gyfle gwych i unrhywun fyddai’n dymuno gweithio ym myd teledu ond sydd heb fedru canfod ffordd i mewn neu sydd wedi wynebu rhwystr mynediad.
Boed i’r rhwystr fod oherwydd hil, anabledd neu gefndir economaidd - crëwyd rad er mwyn diddymu’r rhwystrau hyn. Mae’n swydd dan hyfforddiant â thâl dros wyth-mis gyda chwmni cynhyrchu teledu Cymreig annibynnol sy’n cynnwys hyfforddiant llawn trwy gydol y cyfnod gwaith.
Mae wyth safle ar gael ar draws tair swydd: Ymchwilydd, Cynorthwyydd Golygu a Chynorthwyydd Cynhyrchu.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28ain Mawrth 2022.
Cewch fanylion llawn ynglyn â sut i wneud cais yn ogystal â Chwestiynnau Cyffredin ar www.trcmedia.org/training/rad-cymru-wales-tv-traineeship/
|
|
Hub Cymru Africa yn chwilio am Gadeirydd Annibynnol
|
|
|
Mae Hub Cymru Africa yn chwilio am Gadeirydd annibynnol ar gyfer eu Bwrdd Partneriaeth.
Ni fydd tâl ar gyfer y swydd. Bydd unrhyw wariant personol rhesymol yn cael ei ad-dalu yn unol â’r polisi treuliadau.
Ar hyn o bryd, mae’r bwrdd partneriaeth yn cynnwys dau ymddiriedolwr o bob corff cyfrannog ac mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategaethol a goruchwyliaeth rhaglen o weithgareddau sy’n cefnogi mentrau datblygiad rhyngwladol yng Nghymru.
Bydd y Cadeirydd yn sicrhau fod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau yn ogystal â chynrychioli’r Bwrdd pan yn angenrheidiol ar gyfer trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru neu gyrff cyhoeddus swyddogol eraill.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’u cwblhau yw 31ain Mawrth 2022.
Am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais, cysylltwch â cathiejackson@hubcymruafrica.org.uk. Fel arall, ewch yma i ganfod mwy.
|
|
ADNODDAU AR GYFER Y SECTOR
|
|
|
Cyfarfod â’r Tîm Gwaith Allanol Datblygiad Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
|
|
|
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae ein bywydau wedi cael eu heffeithio mewn amryw o ffyrdd gan bandemig COVID-19 ac mae’r effeithiau’n dal i barhau, yn enwedig, ac yn fwy anghymesur, o fewn Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Rydyn ni oll am weld Cymru mwy iach a mwy cyfartal, a dyna pam mae’r Tîm Gwaith Allanol Datblygiad Cymunedol wedi cael ei sefydlu gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, gyda’r bwriad o ganfod ffyrdd i wella canlyniadau iechyd pobl o leiafrifoedd ethnig yn ein tair sir (Sir Gâr, Ceredigion, a Sir Benfro).
Rydyn ni wedi datblygu cysylltiadau clos ag awdurdodau lleol, cyrff statudol a thrydydd sector, a grwpiau cymunedol o fewn y dair sir. Ein ffocws yw i estyn allan at ac i ymrwymo â grwpiau lleiafrifoedd ethnig megis cymunedau Du ac Asiaidd, cymunedau Sipsi a Theithwyr, Ffoaduriaid a grwpiau bregus eraill.
Ffoadur o Syria:
‘Rwy’n hapus iawn i’ch adnabod ac rydych chi wedi darparu llawer o wasanaethau i mi ac rwy’n diolch o waelod calon i chi...yn enwedig...am ei bod hi wedi fy helpu i gymaint pan yr âf i i’r ysbyty, ac mae angen cyfieithydd neu unrhywbeth arall arna i’
I ganfod mwy neu er mwyn siarad ag aelod o’r tîm cysylltwch â: Stepheni neu Sandra trwy Inclusion.hdd@wales.nhs.uk neu 07866 077602.
|
|
TAFLU GOLEUNI AR Y SECTOR
|
|
|
Mae ein ffocws y mis hwn ar Community Care and Wellbeing Service!
|
|
Rydyn ni’n hapus tu hwnt i fedru taflu goleuni ar Community Care and Wellbeing Service (CCAWS) y mis hwn! Wedi’u seilio yng Nghaerdydd, mae CCAWS yn darparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned yn y meysydd canlynol: eiriolaeth, creu cyfeillion a chwnsela. Mae cyfleoedd hefyd ar gael i ymgysylltu â CCAWS trwy ddod yn eiriolwr, yn gyfaill neu trwy gwblhau trefniant dan oruchwyliaeth yn rhan o’r broses o ddod yn gwnselydd proffesiynol.
Mae’r gwasanaethau hyn yn rhad ac am ddim ac yn darparu ffordd wych o gaffael cymorth sy’n buddio lles emosiynol a iechyd meddwl unigolion. Caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi ac yn bwysicach na dim, mae’r gwagleoedd wedi’u creu i fod yn anfarnol. Yn ogystal, mae’r corff yn medru darparu Gweithdai Gwytnwch! Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â nhw dros Twitter, Facebook neu tarwch ebost trwy info@ccaws.org.uk
|
|
|
|
|
|
|